

Cyhoeddwyd y wefan yma ar ei newydd wedd ar y 3ydd o Ionawr 2024 i ddathlu penderfyniad pwysig Cynghorau Cymuned Aberdaron, Botwnnog a Thudweiliog i ddynodi’r ardaloedd o fewn ffiniau’r tair ward yn Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (dwysedd uwch) ar Ddydd Llywelyn Ein Llyw Olaf 11/12/23. Ymhen y mis fe ddynododd Cyngor Tref Nefyn yr ardaloedd o fewn eu ffiniau a dyna ddechrau rhwydwaith cyswllt rhwng unigolion, mudiadau, sefydliadau a Chynghorau Cymuned a Thref sydd gyda’r nod o warchod a chynyddu niferoedd siaradwyr, aelwydydd a defnydd y Gymraeg.
Gwnaed y dynodiadau ar sail tystiolaeth Cyfrifiad 2021 ac argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg y dylid amrywio polisi cyhoeddus er mwyn sefydlogi a chryfhau’r Gymraeg yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg gryfaf. Drwy hyn mae’r cynghorau wedi ymuno efo Cyfeillion Llŷn, Cymdeithas Penygraig o dan ambarél prosiect ‘Perthyn’ Llywodraeth Cymru. Maent hefyd yn cadarnhau eu nod o gryfhau’r Gymraeg yn Llŷn a bydd y gwaith ymchwil ac ymgynghori o dan y prosiect ‘Perthyn’ yn edrych ar bosibiliadau fel gosod amod iaith ar ddatblygiadau tai, creu cyfleoedd newydd i’r Gymraeg a sefydlu twristiaeth wahanol fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg yn y dydodol.
Sefydlwyd Cyfeillion Llŷn yn 1986 gan R.S.Thomas a Gruffudd Parry’r efo’r amcanion o warchod y Gymraeg, yr amgylchedd a’r economi yn Llŷn, gyda chryfhau’r Gymraeg yn brif nod erbyn heddiw. Ers ei sefydlu mae’r Cyfeillion wedi rhoi’r flaenoriaeth i warchod y Gymraeg, fel ein trysor mwyaf gwerthfawr, ar bob achlysur a dyna sail i bob penderfyniad. Dywedodd Saunders Lewis fod parhad yr iaith yn Llŷn, sy’n ddi-dor ers y chweched ganrif, yn fater o fyw neu farw i Gymru.
Dywedai Saunders Lewis hefyd, y gwelai mewn dwyieithrwydd “farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddi-alar i’r Gymraeg” a dyma sy’n digwydd yn Llŷn heddiw. Erbyn heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i warchod y Gymraeg yn y cymunedau sydd yn dioddef waethaf o effeithiau ail gartrefi a thwristiaeth. Fel rhan o’r prosiect Perthyn rydym yn edrych ymlaen at gydweithio i warchod ein hawl i fyw yn Gymraeg a chroesawu siaradwyr newydd atom i sefyll efo ni yn y bwlch a chyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr newydd erbyn 2050.
Cyfeillion LLŷn
