Neges bwysig ‘Dim Saesneg!’ Phil Wyman ar ben draw ei bererindod o bymtheng mlynedd i Gymru.
Cymunedau Cymraeg, Twristiaeth Wahanol a Dim Saesneg Plîs.
Ar ymweliad i Gastell Caernarfon bymtheg mlynedd yn ôl y gwelodd Phill Wyman y geiriau ‘Llewelyn ap Gruffudd – Last Prince of Wales’ a dim mwy o hanes nag eglurhad. Ond roedd Phill yn gwybod yr hanes am orchfygu Llewelyn gan Edward I ac fel y bu iddo osod ei fab ei hun yn dywysog y Cymry ac mae dyna’r drefn sarhaus sydd yn para hyd heddiw. Sylweddolodd Phill fod rhywbeth mawr o’i le am nad oedd yr hanes yno a bod y Cymry a’r Gymraeg yn cael eu sathru dan draed bob dydd. Dyna wnaeth i Phill Wyman o Galiffornia ddechrau crio ac addo y byddai’n dychwelyd i Gymru ryw ddydd ac er mwyn dangos parch i’r Cymry y byddai yn dysgu Cymraeg ac yn mynd ar daith o amgylch y wlad yn siarad dim ond Cymraeg.
Fe aeth Sian Parri i’w gyfarfod ar 24ain o Ebrill 2023 i ofyn iddo ddŵad i gyfarfod cyhoeddus ar y 1af o Orffennaf, oedd yn cael ei drefnu gan Gyfeillion Llŷn ac roedd Phill yn falch o dderbyn. Gwnaeth Sian ffilm fer o neges ganddo at bobl Llŷn i gael ei ddefnyddio cyn y cyfarfod. Cyflwynwyd y ffilm i blant ysgolion dalgylch Pwllheli a Botwnnog yn rhan o’r cyflwyniad celf ‘Creu Hanes’ ac fe wnaeth neges Phill Wyman argraff fawr ar y plant.
Fe fu Phill farw’n sydyn ar 29ain o Fai cyn iddo gael mynychu cyfarfod cyhoeddus y Cyfeillion a hefyd cyn iddo gael mynd ar ei daith ‘Dim Saesneg’ o amgylch Cymru yn siarad dim byd ond Cymraeg. Ond mae ei neges bwysig i ni yn para – ‘Os ti’n byw yn y Pen Llŷn a Gwynedd, defnyddia dy eiriau Cymraeg efo’r bobl sy’n ymweld er mwyn iddyn nhw wybod bod Cymru yn lle hyfryd’…‘Plîs dim Saesneg efo fi’
Phill Wyman a neges y plant
Siaradwyr Cymraeg Newydd Llŷn yn ategu neges Phill Wyman
