Cafwyd noson o gelf ac adloniant yn Llangwnnadl ar 30ain o Dachwedd i lansio’r prosiect ‘Perthyn i Lŷn’. Fe drawsnewidiodd gwaith lliwgar a hardd Anna Fôn y Ganolfan i fod yn oriel gelf chwaethus mewn awyrgylch gartrefol a chlud ar noson rewllyd oer.






Diolch i bawb a ymunodd, i Sioned Erin am ddarllen ei cherddi ac am ei gwaith efo ‘Mesen’, Bryn Fôn a ffrindiau am ganu a rapio, i gynrychiolaeth o Gyngor Cymuned Aberdaron a Nefyn am gefnogi ac i Glenys am y Ganolfan.
Mae’r prosiect yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i gryfhau’r Gymraeg. Bydd Cymdeithas Penygraig a Chyfeillion Llŷn yn gofyn am gefnogaeth a chydweithrediad pawb sy’n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg.

