Pecynnu’r Profiad Cymraeg

Cyflwyno Llŷn fel ardal wyliau ddelfrydol i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg…..

Fe gyflwynodd Cyfeillion Llŷn y syniad o ddefnyddio’r diwydiant twristiaeth i hyrwyddo’r Gymraeg yn Llŷn, i Gyngor Gwynedd yn gyntaf yn 2012. Cynllun oedd hwn i wyrdroi’r effaith niweidiol yr oedd y diwydiant yn ei gael i fod yn effaith mwy cadarnhaol. Fe gytunodd Cyngor Gwynedd i roi nawdd bach i gymuned Llangwnnad drwy brosiect o’r enw ‘Pecynnu’r Profiad’ i gychwyn gweithredu’r syniad.

Am fod nifer o drigolion Llangwnnadl yn uniaith Saesneg a Chyfeillion Llŷn yn gweithredu’n uniaith Gymraeg fe sefydlwyd Cymdeithas Penygraig i gychwyn gweithredu’r syniad o ‘Groeso Cymraeg’ yn Llangwnnadl. Fe’i galwyd yn ‘Pecynnu’r Profiad Cymraeg’ ac aed ati drwy ymgynghori i weithio efo’r gymuned i wneud y Gymraeg yn fwy amlwg.

Cynhaliwyd sesiynau a chyfarfodydd cyhoeddus yng Nghapel Penygraig a oedd wedi cael caniatâd cynllunio i sefydlu Canolfan Dreftadaeth a Natur yno. Cynhaliwyd sesiynau dysgu Cymraeg, nosweithiau dawnsio gwerin a chanu Cymraeg, fel Gwibdaith Hen Fran, Meic Stevens, John ac Alun ayyb. Gosodwyd arwyddion enwau lonydd Cymraeg a chytunodd y busnesau i osod arwyddion dwyieithog neu uniaith Gymraeg gyda symbolau yn lle rhai Saesneg. Mae’r cynllun wedi ei efelychu gan Gymdeithas Llanengan a dderbyniodd nawdd bach gan yr AHNE ac a gafodd ei lansio ’n ddiweddar. Mae cymunedau Efailnewydd a Llannor wedi gofyn am arweiniad gan Gymdeithas Penygraig i gychwyn ar brosiect tebyg yn fuan.

Mae Capel Penygraig wedi ei leoli ar safle’r hen ysgubor ddegwm, capel a festri ar 12 acer o dir. Erbyn heddiw mae’r ganolfan hefyd yn stiwdio ac oriel gelf sydd yn parhau i hyrwyddo Llŷn fel y lle y dywedodd Saunders Lewis amdano fod ‘parhad y Gymraeg yn Llŷn, sy’n ddi-dor ers y chweched Ganrif yn fater o fyw neu farw i Gymru’. 

cyfeillion Llŷn