Sefydlwyd Cyfeillion Llŷn yn 1984 gan Gruffudd Parry ac R.S.Thomas gyda thri phrif amcan-: gwarchod y Gymraeg, yr amgylchedd a buddiannau pobl Llŷn. Ers ei sefydlu y mae’r Cyfeillion wedi gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r angen i gynnal yr iaith a’r bywyd Cymraeg yn Llŷn a chadarnleoedd eraill.


Brodor o Garmel yn Arfon oedd Gruffudd Parry ond roedd ei fam yn wreiddiol o Langwnnadl yn Llŷn. Yn rhannol oherwydd bod ei frawd a dau gefnder iddo yn darlithio yn yr adran Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor penderfynodd symud i’r adran Saesneg ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf. Wedi gadael y coleg cafodd swydd yn Ysgol Botwnnog ac yno y bu, yn dysgu Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg, am mae dyna’r peth rhesymol amlwg i’w wneud. Bu’n ymgyrchu dros warchod y Gymraeg ar hyd ei oes o’r teithio ar ei feic i hel enwau ar ddeiseb yn gwrthwynebu sefydlu gwersyll Gwyliau Billy Butlins ym Mhwllheli am ei fod yn gwybod yr effaith niweidiol yr oedd am ei gael ar ein cymunedau a’r Gymraeg i frwydr enwog Bryncroes a warchododd yr ysgolion bach am ddegawdau er colli’r frwydr ym Mryncroes. Roedd yn gyfarwydd iawn â’n cryfderau a’n gwendidau fel Cymry ond yn ysgogi, cefnogi a chynorthwyo bob ymdrech gan bawb. Mae’r gyfrol ‘Crwydro Llŷn ac Eifionydd’ yn profi ei ddawn fel awdur a thrwy ei ddull teimladwy o ysgrifennu mae ei bersonoliaeth, garedig, gymwynasgar gadarn a doeth yn disgleirio.
Er bod y ddau yn yr Adran Saesneg ym Mangor ar yr un pryd, roedd gan y ddau, ddiddordebau a barn wahanol iawn i’w gilydd am Gymreictod bryd hynny. Dim ond ar ôl i’r ddau ymddeol ac ar ôl i R.S. Thomas ystyried fod ei Gymraeg yn ddigon da yr aeth i ymweld â Gruffudd Parry a gofyn am ei gymorth i sefydlu cymdeithas i warchod Cymreictod Llŷn. Erbyn hyn roedd llawer gormod o Saesneg yn amharu ar y “glendid a fu” ac aeth y ddau ati i arfogi, i amddiffyn a chau’r bwlch, a dyna fan cychwyn Cyfeillion Llŷn gyda R.S.Thomas yn Ysgrifennydd a Gruffudd Parry yn Gadeirydd a buan y daeth cyfeillion eraill i sefyll gyda nhw yn y bwlch – Moses Glyn Jones, Ioan Mai Evans, Gareth Williams, Robyn Lewis, Arfon Huws, a sawl un arall a oedd yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb.
Fel un a oedd wedi gorfod dysgu ei famiaith ei hun, yr oedd R.S. yn ymwybodol iawn o’r angen i siaradwyr Cymraeg gynorthwyo ymdrechion y dysgwyr drwy beidio troi i’r Saesneg. Mi fydda fo’n dweud mai’r oll sydd angen i ni ei wneud i warchod y Gymraeg ydy ei siarad hi, a siarad dim ond y hi.









