
Dwy weledigaeth un Nod – Croeso Cymraeg a Cymraeg 2050. Cyhoeddi diweddariad prosiect Perthyn, Llywodraeth Cymru yn Llŷn.
Mae’r prosiect Perthyn yn un o lawer o brosiectau Llywodraeth Cymru sydd gyda’r nod o wireddu gweledigaeth Cymraeg 2050. Mae’n anelu i helpu’r cymunedau Cymraeg sydd yn dioddef waethau o effeithiau niweidiol y diwydiant twristiaeth, drwy edrych ar sefydlu ymddiriedolaethau tai a thir er mwyn cynyddu niferoedd siaradwyr, aelwydydd a defnydd y Gymraeg a chynnal gwead y gymuned Gymraeg.
Drwy ymgynghoriad ac ymchwil y prosiect gwelwyd fod y Gymraeg mewn argyfwng lawer gwaeth yn ei chadarnle nac mae’r ystadegau swyddogol yn ei ddangos. Mae Arolwg Tai ac Iaith Llangwnnadl wedi dangos lleihad sylweddol yng nghanran yr aelwydydd a siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn golygu nad oes gyswllt rhwng ‘person lleol’ a gallu ieithyddol bellach. Gwelwyd fod yna bryder dwys ar lawr gwald am effaith niweidiol Polisi Gosod Tai Cyffredin Cyngor Gwynedd sy’n arwain at ddifodiant yr iaith yn gynt. Mae’r ymchwil wedi cadranhau’r angen brys i sefydlu Polisiau Gosod Lleol fydd yn rhoi blaenoriaeth i sefydlu aelwydydd Cymraeg yn y cymunedau Cymraeg. Mae hefyd wedi cadarnhau fod yna gefnogaeth gymunedol i barhad y Gymraeg a pharodrwydd i weithio yn gydweithredol i sicrhau ei pharhad ac i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i wireddu gweledigaeth Cymraeg 2050.
PERTHYN YN LLŶN Prif bwrpas y prosiect yn Llŷn oedd sefydlu cydweithio rhwng pawb sy’n rhannu gweledigaeth Cymraeg 2050 ac edrych o’r newydd ar bosibiliadau sefydlu gofodau Cymraeg ar safle hen fferm Penygraig yn Llangwnnadl. Hefyd edrych eto ar werth y syniad o hyrwyddo’r Gymraeg yn Llŷn drwy hyrwyddo Llŷn i ymwelwyr yn Gymraeg. Cafodd y syniad ei gyflwyno’n gyntaf mewn cais cynllunio yn 2008, ei dreialu’n llwyddiannus o dan brosiect Pecynnu’r Profiad yn Llangwnnadl 2012 a bu cydweithio ar gynllun tebyg Diogelu Enwau Llanengan yn 2022. Cafodd y syniad ei ailgyflwyn gan Gyfeillion Llŷn fis cyn Eisteddfod Boduan yn 2023 mewn cyfarfod cyhoeddus. Arweiniodd ymgynghoriad y prosiect Perthyn at gydweithio efo Cynghorau Cymunedau Cymraeg, Cymunedoli, Hunaniaith a GwyrddNi, Cylch yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a bu gohebiaeth efo Comisiynydd y Gymraeg. Drwy gefnogaeth cynllun Grymuso Gwynedd gan Menter Môn mae’r wefan croesocymraeg.cymru yn ei lle ac mae’r cynllun wedi ei gynnwys ar restr o gynlluniau blaenoriaeth yn y Cynllun Adfywio ‘Ardal Ni’. Felly mae’r angen i hyrwyddo twristiaeth, gynaliadwy, gylchol Gymraeg gydnaws wedi cael ei gydnabod gan Gyngor Gwynedd am y tro cyntaf ers iddo gael ei argymell gan Dr Dylan Phillips yn 2001 mewn astudiaeth i ‘Effeithiau Twristiaeth ar yr Iaith Gymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru‘ a gomisiynwyd yn rhannol gan Gyngor Sir Gwynedd. Cafodd y wefan ei chyflwyno am y tro cyntaf mewn noson Llais y Lle (un o brosiectau eraill sy’n rhan o strategaeth Cymraeg 2050) yn Neuadd Rhoshirwaun ar y 9fed o Dachwedd 2024.
CYDLYNYDD Sian Parri fu’n gyfrifol am y cais, am gydlynu’r prosiect ac am ddatblygu rhwydwaith o gysylltiadau sy’n rhannu’r un nod o ‘warchod a chynyddu niferoedd siaradwyr, aelwydydd a defnydd y Gymraeg’.
GWEITHGOR Sefydlwyd gweithgor oedd yn aelodau o Gymdeithas Penygraig, Cyfeillion Llŷn a Chyngor Cymuned Aberdaron, Botwnnog a Thudweiliog er mwyn datblygu’r prosiect. Roedd aelodau’r gweithgor yn gyfrifol am gynnal Arolwg Tai ac Iaith Llangwnnadl 2024 efo trigolion cymuned Llangwnnadl ac o dan arwiniad ymgynghorydd ymchwil proffesiynnol.
DYNODI ARDAL O ARWYDDOCÂD IEITHYDDOL DWYSEDD UWCH. Ar Ddydd Llywelyn ein Llyw Olaf (11/12/23) penderfynodd Cynghorau Cymuned Aberdaron Botwnnog a Thudweiliog ddynodi’r holl ardal yn Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch. Gwnaed hyn ar sail tystiolaeth y prosiect Perthyn, argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a mapiau’r Cyfrifiad a ddanghosodd fod y difodiant sydd wedi ymledu o’r dwyrain wedi gwthio’r Gymraeg i orllewin pellaf y penrhyn, lle mae hi yn wynebu holl effeithiau niweidiol y diwydiant twristiaeth sydd yn cynnwys y nifer uchaf yng Nghymru o dai gwyliau.

Ar yr un noson cyhoeddodd Cyngor Cymuned Botwnnog ddatganiad o ddiffyg hyder yng ngallu Cyngor Gwynedd i warchod y Gymraeg fel y dylai nhw.Ymhen y mis dynodwyd Edern, Morfa Nefyn a Nefyn gan Gyngor Tref Nefyn ac erbyn hyn mae holl Gynghorau Cymuned a Thref Llŷn wedi ymuno. Drwy’r dynodiad mae’r Cynghorau Cymuned a Thref wedi ategu’r Nod Strategol o ‘warchod a chynyddu defnydd y Gymraeg’, cefnogi Cymraeg 2050 ac argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a galw am fwy o adnoddau a rheolaeth i wneud penderfyniadau lleol ac am sefydlu Polisiau Gosod Lleol fydd yn cydfynd a Strategaeth Cymraeg 2050.
POLISI IAITH Y CYNGHORAU CYMUNED CYMRAEG. Mae Cynghorau Cymuned yn Llŷn wedi mabwysiadu’r un un Polisi Iaith sydd gyda’r Nod Strategol o ‘warchod a chynyddu defnydd y Gymraeg’ ers rhai blynyddoedd. Mae’n gwarchod hawl y Cynghorau hynny sydd yn dewis parhau i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg gan roi’r cyfrifoldeb ar yr unigolion uniaethog yn hytrach na’r rhai dwyieithog i drefnu ar gyfer eu hunain, fel y mae nhw angen. Mae pwyllgor Cyfeillion Llŷn wedi cydlynnu’r trefniadau, mae’r polisi wedi ei ddiweddaru yn ddiweddar ac mae’r prosiect Perthyn wedi amlygu gwerth y polisi.
CANFYDDIADAU AROLWG TAI AC IAITH LLANGWNNADL 2024. O weld fod yna bryder dwys ar lawr gwlad am sefyllfa’r Gymraeg cafwyd cyngor arbenigol ymgynghorydd ymchwil er mwyn cynnal arolwg manwl gan ddefnyddio gwybodaeth arbenigol trigolion lleol. Cafwyd tystiolaeth gadarn fod argyfwng y Gymraeg yn llawer gwaeth mewn gwirionedd nac mae’r ystadegau swyddogol yn ei ddangos. Mae’r ystadegau swyddogol am yr ardal yn amrywio rhwng 70.16% a 68% yn siarad Cymraeg ond mae ein harolwg ni yn cadarnhau 40.1% yn unig. Mae polisi TWR 2 Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Gwynedd yn argymell na ddylid caniatáu canran uwch na 15% o dai gwyliau mewn unrhyw gymuned, ond mae ein harolwg ni ar 127 o dai yn dangos canran o 38.6%. Mae hyn yn dangos diffyg hel gwybodaeth yn gyson a monitro er mwyn ymateb yn briodol.
DIM CYSWLLT RHWNG ‘PERSON LLEOL’ A ‘SIARAD CYMRAEG’ Mae’r canfyddiad fod y ganran o siaradwyr Cymraeg mor isel yn cadarnhau nad yw ‘person lleol’ yn gyfystyr a pherson sy’n siarad Cymraeg bellach. Mae’r defnydd o ‘gyswllt lleol’ ‘pobl leol’ yn cael eu defnyddio yn gyson yng nghyswllt polisi cynllunio a gosod tai gan roi argraff fod hyn am warchod neu adfer dirywiad y Gymraeg. Ond mae canfyddiadau’r arolwg yn dangos yn glir fod yn rhaid holi ac ystyried gallu ieithyddol unigolion wrth osod tai er mwyn sefydlu mwy o aelwydydd Cymraeg.
SEFYDLU POLISIAU AR SAIL GWYBODAETH ANGHYWIR. Mae canlyniadau’r arolwg yn codi pryderon am bolisïau ayyb sydd mae’n debyg wedi eu sefydlu ar sail gwybodaeth anghywir. Mae’n ffaith fod polisiau’r Cynlluniau Datblygu wedi methu gwarchod y Gymraeg fel y dylid ers degawdau ac mae’n debygol fod y diffyg data cywir gan ddefnyddio gwybodaeth arbennigol leol ar lawr gwlad wedi cyfrannu at hyn.
POLISI GOSOD TAI CYFFREDIN (POLISI CYNGOR GWYNEDD AR OSOD TAI CYMDEITHASOL MEWN PARTNERIAETH GYDA ADRA, GRŴP CYNEFIN A TAI GOGLEDD CYMRU. Amlygwyd fod rhai o bolisïau a gweithredoedd Cyngor Gwynedd yn arwain at ddifodiant y Gymraeg yn gynt. Y polisi mwyaf niweidiol ydi’r Polisi Gosod Tai Cyffredin sy’n rhoi blaenoriaeth i adleoli llu o bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg o Loegr ac ardaloedd di-gymraeg o Gymru i fyw yn y cymunedau mwyaf Cymraeg heb drefn yn ei lle i’w cymhathu nac i gefnogi’r cymunedau Cymraeg i ymdopi.
DERBYN CYNGOR COMISIYNYDD Y GYMRAEG. Cyflwynwyd adroddiad am ymchwil Perthyn i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Mae’r Comisiynydd wedi cadarnhau fod Cyngor Gwynedd wedi methu ‘cydymffurfio â safonau’r Gymraeg’ wrth gynnal asesiad o effeithiau Polisi Gosod Tai Cyffredin Gwynedd ar y Gymraeg yn 2019. O dan Adran 4 Mesur y Gymraeg (2011) mae’r Comisiynydd wedi argymell i’r Cyngor gynnal asesiad effaith cynhwysfawr wrth adolygu a diwygio’r polisi. Mae’r Cyngor wedi cadarnhau nad oes bwriad i wneud hyn yn fuan.
POLISI GOSOD LLEOL (YSTYRIAETH I’R GYMRAEG) O dan Adran 167 (2E) o Ddeddf 1996 gellir sefydlu Polisi Gosod Lleol mewn cymunedau penodol gan ychwanegu ystyriaethau perthnasol ychwanegol. Mae gan Gyngor Sir Powys, Cyngor Tref Machynlleth a Chwmni Barcud bolisi sy’n weithredol ac sy’n rhoi blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg wrth osod tai. Mae’r polisi yn cyd-fynd a Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a nod y Cynghorau Cymuned o warchod a chynyddu defnydd y Gymraeg. Mae’r hawl yma yn bod o fewn y Polisi Tai Cyffredin ers 1996 ac mae Polisi Gosod Lleol yn cael ei sefydlu drwy gytundeb rhwng y Cynghorau Cymuned a’r Asiantaethau Tai Cymdeithasol efo sêl bendith Adran Tai Cyngor Gwynedd. Drwy sefydlu cyswllt rhwng y Cynghorau Cymuned yr amlygwyd yr angen i sefydlu Polisiau Gosod Lleol (a Gwerthu pan yn briodol) ym mhob Cymuned Gymraeg drwy gytundeb rhwng y Cynghorau Cymuned/Tref, yr asiantaethau tai a Chynghor Gwynedd. Nod y Cynghorau Cymuned a Thref ydi cynyddu niferoedd siaradwyr, aelwydydd a defnydd y Gymraeg drwy sefydlu Polisi Gosod Lleol.
CAIS CYNLLUNIO BOTWNNOG Drwy’r prosiect Perthyn y cyflwynwyd y posibilrwydd i Gyngor Cymuned Botwnnog o sefydlu Polisi Gosod Lleol ar ddatblygiad i godi 18 o dai. Roedd cytundeb rhwng y partion lleol fod angen un ond cyflwynwyd y cais cyn sefydlu Polisi Gosod Lleol. Am hyn penderfynodd Cynghorwyr y Pwyllgor Cynllunio wrthod y cais ar sail Polisi PS1 y byddai niwed i’r Gymraeg wrth eu gosod o dan Bolisi Gosod Tai Cyffredin Cyngor Gwynedd. Dyma’r tro cyntaf erioed i gais cynllunio gael ei wrthod ar sail niwed i’r Gymraeg yn unig. Anfonodd cydlynydd Perthyn lythyr at Adra yn gofyn iddy nhw beidio mynd i apel am y byddai yn gyfystur a gosod dedfryd o fyw neu farw ar y Gymraeg. Gofynodd iddy nhw agor trafodaeth am gytundeb efo Cyngor Cymuned Botwnnog ac yna ail gyflwyno’r cais. Cadarnhaodd Adra fod y broses yn parhau. Cafodd y cais gryn sylw yn y wasg a derbyniodd y Cyngor Cymuned fygythiadau –
https://www.bbc.co.uk/news/articles/ckg17r60lkvo
https://www.bbc.co.uk/news/articles/cp959zl5lzko
https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/pressure-approve-housing-scheme-gwynedd-30170941
CYNGOR TREF NEFYN. Yr un pryder am effaith niweidiol Polisi Gosod Tai Cyffredin Cyngor Gwynedd arweiniodd at benderfyniad Cyngor Tref Nefyn i wrthwynebu cais am 14 o dai yn Nefyn gan Grŵp Cynefin. Mae Cynghorydd Sir Nefyn wedi agor trafodaeth efo Cynefin am sefydlu Polisi Gosod Lleol gyda’r nod o gynyddu niferoedd aelwydydd Cymraeg. Mae’r trafodaethau ar y gweill.
CYNGOR CYMUNED TUDWEILIOG . 31/1/25 Mae Cyngor Cymuned Tudweiliog wedi anfon gohebiaeth at Gyngor Gwynedd am fod tai cymdeithasol wedi eu gosod i denantiaid sydd ddim yn lleol, ddim yn medru siarad Cymraeg ac wedi symud i fyw i dy cymdeithasol yn Nhudweiliog o Loegr. Mae hyn yn tanseilio Nod Statudol Cyngor Cymuned Tudweiliog o warchod a chynyddu defnydd y Gymraeg ac mae’r Cyngor wedi gofyn am gefnogaeth a cydweithrediad Cyngor Gwynedd i sefydlu Polisi Gosod Lleol ar bob ty cymdeithasol a fforddiadwy fydd yn rhoi blaenoriaeth i bobl leol sefydlu aelwydydd Cymraeg o fewn ward Tudweiliog.
CYNGOR CYMUNED LLANWNDA. 11/12/25 Galwodd Cyngor Cymuned Llanwnda gyfarfod eithriadol i drafod y cais yn Llanwnda. Penderfynwyd gwrthwynebu cais cynllunio am y byddai y tai yn cael eu gosod o dan Bolisi Gosod Tai Cyffredin Gwynedd ac yn cael effaith niweidiol ar y Gymraeg. Defnyddiwyd tystiolaeth prosiect Perthyn yn Llŷn a bu adroddiad yn y Daily Post. https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/claim-new-adra-housing-estate-30874838.amp
CYNGOR CYMUNED ABERDARON – 10/01/25 Yn dilyn derbyn gwybodaeth am benderfyniad Tudweiliog, penderfynodd y Cyngor ofyn am gefnogaeth Cyngor Gwynedd i sefydlu Polisi Gosod Lleol.
CYNGOR TREF NEFYN – 11/01/25Penderfynodd Nefyn ddilyn esiampl Aberdaron a Tudweiliog a gofyn am gefnogaeth i sefydlu Polisi Gosod Lleol ar bob t fforddiadwy a chymdeithasol.
CYNGOR CYFREITHIOL DRWY LAW COMISIYNYDD Y GYMRAEG. 11/01.25 Gofynwyd ar ran y Cynghorau Cymuned am gadarnhad o’r sefyllfa gyfreithiol o ran sefydlu Polisi Gosod Lleol a Gwerthu a fyddai yn rhoid blaenoriaeth i osod tai i siaradwyr Cymreag mewn cymunedau Cymraeg. Mae Polisi Gosod Lleol yn cael ei sefydlu drwy gytundeb rhwng y Cynghorau Cymuned a Thref Lleol a’r Asiantaeth Dai sy’n rheoli’r gosodiadau o dan Adran 167 (2E) o Ddeddf 1996. Derbyniwyd cadarnhad o’r farn fod ystyried y Gymraeg yn briodol.
CANOLFAN PENYGRAIG – Mae’n ffaith gydnabyddedig mae mewnfudiad o siaradwyr Saesneg ac allfudiad o bobl ifanc Gymraeg sy’n achosi difodiant yr iaith. Yma yn Llŷn mae effaith y diwydiant twristiaeth Saesneg yn ychwannegu at y difodiant ac i’w weld yn amlwg yn Abersoch. Nod y cynllun Croeso Cymraeg ydi gwyrdroi effaith niwiediol y diwydiant Saesneg i fod yn effaith gadarnhaol diwydiant twristiaeth Gymraeg. Cyflwynwyd y syniad i Gyngor Gwynedd mewn cais cynllunio i sefydlu Canolfan Dreftadaeth a Natur yn Llangwnnadl yn 2008 ac mae’r prosiect Perthyn wedi rhoi cyfle i edrych eto ar bosibiliadau datblygu’r safle i sefydlu gofodau Cymraeg ar y safle ac yn rhithiol ar y we.
Mae’r Cynllun Datblygu wedi nodi Llangwnnadl fel cefn gwlad agored ac mae hyn yn cyfyngu ar bosibiliadau sefydlu ymddiriedolaeth tir i godi tai. Cafodd y beudai ganiatad cynllunio i sefydlu Canolfan Dreftadaeth a Natur yn 2008. Mae’r Capel Festri a’r ty mewn perchnogaeth breifat ond mae’r perchenog wedi ymrwymo i’r nod o warchod a hyrwyddo’r Gymraeg ac yn ystyried sicrhau defnydd addas i’r adeiladau. Mae’r defnydd cymunedol wedi para ar hyd y blynyddoedd ac mae’r capel yn cael amrywiol ddefnyddiau achlysurol fel stiwdio a gofod arddangos celf, man cyfarfod i’r gymuned sydd wedi cynnal sesiynnau ymarfer Cymraeg a a chyfarfodydd Cymdeithas Penygraig a Chyfeillion yno.
Mae’r cyfyngder ar y defnydd yr un fath mewn perchnogaeth ymddiriedolaeth neu breifat. Mae nawdd Perthyn wedi talu am gyngor gan bensaer ac am greu cynlluniau o’r adeiladau a fydd yn cael eu cyflwyno i syrfewr i asesu cyflwr yr adeiladau wedyn. Mae’r ymgynghoriad efo’r gymuned wedi cyfeirio at ddefnydd sesiynau siarad Cymraeg a chrefft yn y capel neu festri. Codwyd y posibilrwydd o osod y Tŷ Capel drwy’r cynllun Croeso Cymraeg i ymwelwyr ddysgu am hanes y Gymraeg a chael profiadau trochol. Mae dysgwyr o Nant Gwrtheyrn wedi bod i weld yr arddangosfa gelf ac wedi mwynhau profiad trochol mewn gofod Cymraeg. Mae grwpiau plant o ysgolion cynradd ac aelodau Gwyrddni wedi cael sesiynnau natur yn yr ardd ac roedd cefnogaeth i ddefnydd fel hyn. Codwyd y posibilrwydd o rentu’r tŷ i dalu am gostau cynnal adeiladau’r capel ac mae’r perchenog wedi holi Cyngor Gwynedd am y cynllun lesio ac wedi deall y byddai yn cael ei osod o dan y Polisi Gosod Tai Cyffredin i bobl ddi-gymraeg o’r tu allan i Wynedd sy’n groes i nod Cymraeg 2050. Pan fydd adroddiad y syrfewr wedi ei gwbwlhau bydd yn cael ei gyflwyno i’r gymuned a bydd ymgynghoriad pellach am y syniadau amlinellol cychwynnol.
CROESO CYMRAEG. Mae Perthyn wedi cadarnhau gwerth y syniad o sefydlu twristiaeth gyfrifol gylchol Gymraeg. Mae wedi hwyluso cydweithio i sefydlu gwefan i ddwad a phawb sydd yn hyrwyddo’r ardal yn Gymraeg at eu gilydd mewn un gofod Cymraeg ar y we ac mae technoleg yn ei chyfieithu i ieithoedd y byd. Mae hefyd wedi dechra sefydlu’r angan i gynyddu cyfleoedd a gofodau uniaith Gymraeg. Mae’r wefan newydd www.croesocymraeg.cymru yn hyrwyddo Llŷn yn Gymraeg a’r Gymraeg yn Llŷn wedi cael ei lansio yn Neuadd Rhoshirwaun mewn pnawn hwyliog efo Dylan Nero, Bryn Fon a disgo i’r plant a noson efo Bryn Fon a Bob Delyn a’r Ebillion. Mae’r wefan wedi ei chefnogi gan Menter Mon a’r cynllun Grymuso Gwynedd a bydd yn cael ei hyrwyddo a’i datblygu ymhellach mewn partneriaeth efo Menter Iaith Gwynedd, Gwyrdd Ni, Cymunedoli a mentrau eraill.


Gweithgor Perthyn:-Sian Parri, (Cymdeithas Pen-y-graig, Cyfeillion Llŷn, Cyngor Cymuned Tudweiliog)
Seimon Jones, (Cymdeithas Pen-y-graig, Cyfeillion Llŷn)
Margiad Roberts, (Cymdeithas Pen-y-graig, Cyfeillion Llŷn),
Gareth Williams, (Cyfeillion Llŷn),
Sion Williams – (Cyngor Cymuned Botwnnog),
Dewi Wyn Evans (Cyngor Cymuned Aberdaron).
Cefnogaeth i amrywio polisiau mewn cymunedau Cymraeg :-
Cyngor Cymuned Botwnnog, Cyngor Cymuned Aberdaron, Cyngor Cymuned Tudweiliog,
Cyngor Tref Nefyn, Cyngor Cymuned Buan, Cyngor Cymuned Llanbedrog, Cyngor Cymuned Llanengan, Cyngor Cymuned Llanystumdwy, Cyngor Cymuned Llannor, Cyngor Tref Pwllheli, Cyngor Cymuned Llanaelhaearn, Cyngor Cymuned Pistyll, Cyngor Tref Porthmadog, Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn, Pwyllgor Dwyfor Un Llais Cymru, Cylch yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith a Dyfodol yr Iaith.
Arolwg Tai ac Iaith Llangwnnadl
Dyma ran gyntaf o bapur ymchwil a gyhoeddir mewn dwy ran ar Arolwg Tai ac Iaith Llangwnnadl 2024. Cynhaliwyd yr arolwg fel rhan o brosiect Perthyn, Llywodraeth Cymru yn Llŷn gyda’r nod o helpu’r Gymraeg i ffynnu, yn y cymunedau Cymraeg lle mae niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau.

Rhan 1) Mae’r Arolwg Tai ac Iaith yn ddata sylfaenol ar dai ac iaith sydd wedi ei gasglu, gan, ac ar gyfer cymuned leol Llangwnnadl, Llŷn. Mae’n cynnwys y cyflwyniad, y fethodoleg, y canlyniadau ynghyd a thrafodaeth a chanliad gychwynnol. Mae’r taenlenni data crai (dienw) ar gael ar gais.
Llanw Llŷn Ionawr 2024

Llanw Llŷn Rhagfyr 2023


