Mae Cyfeillion Llŷn yn cydweithio gydag unigolion, grwpiau, busnesau, mudiadau cynghorau a sefydliadau a’r draws y sectorau yn lleol a chenedlaethol er mwyn cyrraedd ein prif nod ac amcanion. Rydym yn gwneud gwaith ymchwil, yn cynnal arolygon, trefnu cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau o bob math. Rydym yn ymateb i fygythiadau fel y maen nhw yn codi ac yn gweithredu drwy gyflwyno tystiolaeth a’r seiliau cadarn i ddylanwadu ar bolisïau a barn. Rydym bob amser yn croesawu trafodaeth agored a gonest efo pawb.
Dyma rai o’r ymgyrchoedd a threfniadau yr ydym wedi eu harwain, gefnogi neu fod yn rhan ohonyn nhw dros y blynyddoedd.

Mae’r prosiect Perthyn yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i gynnal y Gymraeg yn y cymunedau sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi. Mae ffigurau’r Cyfrifiad 2021 yn cadarnhau mai ym mhen draw Llŷn y mae’r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg ac mai yma hefyd y mae’r ganran uchaf o ail gartrefi ac felly yma y mae’r bygythiad mwyaf.

Ar sail tystiolaeth Cyfrifiad 2021 ac argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg mae Cynghorau Cymuned Aberdaron, Botwnnog a Thudweiliog wedi dynodi’r ardal o fewn eu ffiniau yn Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (dwysedd uwch) ar Ddydd Llywelyn Ein Llyw Olaf 11/12/23.

Gweledigaeth o Lŷn yn gyrchfan Gymraeg lle bydd y diwydiant twristiaeth yn ffynnu a’r iaith yn ffynnu yn ei sgil. Gwneud y Gymraeg yn rhan annatod unigryw o brofiad pob ymwelydd i’r Penrhyn bendigedig yma, y dywedodd Saunders Lewis amdano fod parhad y Gymraeg yn Llyn sy’n ddi-dor ers y chweched, ganrif yn fater o fyw neu farw i Gymru.

Cynhaliwyd y cynllun ‘Pecynnu’r Profiad Cymraeg’ yn Llangwnnadl er mwyn treialu’r syniad o gyflwyno’r Gymraeg fel y prif reswm unigryw i ymweld â Llŷn. Aed ati i Gymreigio’r ardal yn weledol ac mewn gweithgareddau a chafwyd cefnogaeth gan bawb o bob cefndir.

Pan ddaeth yr Eisteddfod i Lŷn yn 2023 fe fu Cyfeillion Llŷn yn gyfrifol am drefnu nifer o ddigwyddiadau. Hefyd fe drefnwyd nifer o ddigwyddiadau ar y cyd efo sefydliadau a chymdeithasau eraill fel Prifysgol Aberystwyth a’r Lle Celf yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau mudiadau eraill fel Cymdeithas yr iaith a Chymdeithas R S Thomas ac M E Eldridge.
Phil Wyman ar ffilm gyda Martyn Croydon a siaradwyr Cymraeg newydd. ‘Os ti’n byw yn y Pen Llŷn a Gwynedd, defnyddia dy eiriau Cymraeg efo’r bobl sy’n ymweld er mwyn iddyn nhw wybod bod Cymru yn lle hyfryd’…

Sefydlwyd Crwydro.co.uk yn wefan Gymraeg sydd yn cyflwyno hanes yr ardal drwy deithiau cerdded. Mae hon yn adnodd wedi ei pharatoi ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr a bydd yn rhan o drefniadau sefydlu Llŷn yn gyrchfan Gymraeg. Mae’r wefan yn cyflwyno gwybodaeth i bobl am hanes a diwylliant cyfoethog wrth iddynt gerdded ar hyd y llwybrau sydd ymhlith y gorau yn y wlad.
Cyflwyniad celf ‘Creu Hanes’ yn sôn am hanes yr ardal a gwaith unigolion a mudiadau fel Cyfeillion Llŷn yn arwain at ymgyrch plant ysgol Abererch i bawb ddysgu deud ‘Diolch’ a ‘Croeso’. Gyda chymorth Jo Scott sydd yn gyswllt cymunedol yn Asda Pwllheli mae’r plant wedi cynllunio a gosod arwyddion ar y tils yn egluro pam fod angen gwarchod a pharchu’r Gymraeg er mwyn y plant a phlant y plant.

Mae’r holl waith o ddatblygu’r Ganolfan Dreftadaeth a Natur wedi ei seilio ar adnabod pwysigrwydd yr iaith fel yr hyn sydd yn allweddol i gyflwyno ein treftadaeth yn gywir. Yr iaith ydi cyfrwng ein diwylliant a sail ein hanes ac mae codi ymwybyddiaeth o hyn ar draws y sectorau yn rhan greiddiol o’r gwaith.

Roedd Cyfeillion Llŷn yn un o gefnogwyr Cynghrair o 52 o ysgolion a oedd yn pryderu am gynlluniau Cyngor Gwynedd i newid trefniadau’r ysgolion. Roedd y Cyfeillion hefyd yn bryderus am effaith a chanlyniad y gwrthwynebiad cyhoeddus cry i’r cynlluniau. Cytunwyd i gyd-drefnu cyfarfod cyhoeddus efo Fforwm Llywodraethwyr Llŷn a threfnwyd y cyfarfod ‘Tynged yr Ysgolion’ yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ar Fawrth y 1af yn 2008.

Cymdeithas Gwarchod Porth Colmon
Rhwng Porth Ysgadan ger Tudweiliog, a Phorth Meudwy ger Aberdaron, Porth Colmon ydi’r unig fan i lansio cwch i’r môr. Mae yna fygythiad wedi bod ddwywaith i gau’r porthladd hanesyddol yma a gwahardd y trigolion lleol. Aeth yr achos o flaen yr Uchel Lys yn Llundain yn y 50 ac aeth llond bys o drigolion Llangwnnadl yno ac fe enillwyd y frwydr. Gyda’r hanes hwnnw a Chyfeillion Llŷn yn gefn iddynt fe safodd y pysgotwyr a phobl leol yn gadarn yr eildro ac fe basiodd y bygythiad eto, am y tro.

Gyda gwarchod yr amgylchedd yn un o amcanion y Cyfeillion a bod yn aelod o Gydbwyllgor AHNE Llŷn doedd dim dewis ond ymchwilio, ymgynghori ac ymateb i fater y tyrbinau. Sioc oedd darganfod fod y diffyg ym mholisïau cynllunio Cyngor Gwynedd yn golygu y gellid bod wedi caniatáu codi tyrbinau 120 medr o uchder a mwy. Cywirwyd y diffyg yn y pen draw a gosodwyd cyfyngder o 15 medr ar dyrbinau o fewn golwg yr AHNE ond fe achosodd y mater ddrwgdeimlad a phryder gwirioneddol yn y gymuned.
