Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol

Dynodi Llŷn fel ardal ‘Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (dwysedd uwch)’…….

Ar sail tystiolaeth ffigurau Cyfrifiad 2021 ac argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, dynodwyd ardaloedd Cynghorau Cymuned Botwnnog, Aberdaron a Thudweiliog yn Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (dwysedd uwch) drwy benderfyniad unfrydol y Cynghorwyr ar Ddydd Llywelyn ein Llyw Olaf 11/12/2023

Yn dilyn hyn mae Cynghorau wedi ymuno drwy ddynodi a rhai eraill wedi datgan eu cefnogaeth.

Dynodwyd ardaloedd – Cyngor Tref Nefyn, Cynghorau Cymuned Buan, Llanbedrog , Llanengan, Llanystumdwy a Llannnor.

Derbyniwyd Cefnogaeth gan  – Cyngor Tref Porthmadog, Cyngor Llanaelhaearn, Cyngor Pistyll.

Mae gwaith ymchwil ar y gweill yn Llangwnnadl, fel rhan o brosiect Perthyn, Llywodraeth Cymru i edrych yn fanwl ar sefyllfa’r iaith Gymraeg yn yr ardal heddiw, er mwyn darganfod y ffyrdd gorau o helpu’r Gymraeg. 

Wrth ymchwilio i sefyllfa bresennol y Gymraeg yn Llŷn, fel rhan o’r prosiect Perthyn y sylweddolwyd mai yn ardaloedd Cynghorau Cymuned Aberdaron, Botwnnog a Thudweiliog mae’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg a hefyd y ganran uchaf o dai gwyliau. Yma felly mae’r bygythiad mwyaf oherwydd holl effeithiau tai haf, tai gwyliau, ail gartrefi a’r diwydiant twristiaeth yn ehangach, gyda’r effaith i’w weld ar ei waethaf yn Abersoch, lle mae prisiau tai yn filiynau.

Mae tystiolaeth Cyfrifiad 2021 Llywodraeth Cymru yn cadarnhau mai yn wardiau Aberdaron, Tudweiliog a Botwnnog mae’r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg a’r canran uchaf o ail gartrefi hefyd. Mae papur safbwynt y ‘Comisiwn Cymunedau Cymraeg’ yn argymell dynodi’r ardaloedd lle mae’r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn ‘Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (dwysedd uwch), er mwyn gallu amrywio polisi cyhoeddus a gweithredu o blaid y Gymraeg, er mwyn ei chryfhau fel iaith gymunedol yn y cymunedau Cymraeg.

Pan gyflwynwyd y dystiolaeth uchod gan Gyfeillion Llŷn i Gynghorau Cymuned Aberdaron, Botwnnog a Thudweiliog fe benderfynodd y tri ymuno efo’u gilydd ac efo Cyfeillion Llŷn er mwyn cydweithio i sefydlogi a chryfhau’r Gymraeg yn Llŷn. Dynodwyd yn ffurfiol fel Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (dwysedd uwch) Llŷn ar Ddydd Llywelyn Ein Llyw Olaf 11/12/23. Ymhen y mis ar 12/12/23 fe ymunodd Cyngor Tref Nefyn a mwy wedyn.

Maen nhw yn ymateb i her Jeremy Miles yn ei araith, wrth nodi 60 mlynedd ers traddodi’r ddarlith ‘Tynged yr Iaith’. Mae’r Cynghorwyr yma yn tystio fod proffwydoliaeth Saunders Lewis yn dŵad yn wir. Mae dwyieithrwydd yn achosi ‘marwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddi-alar i’r Gymraeg’ ym Mhenrhyn Llŷn heddiw.

Drwy’r dynodiad maent yn datgan eu hymrwymiad nhw fel unigolion ac fel Cyngor i gryfhau’r Gymraeg ac i gefnogi  holl ymdrechion Llywodraeth Cymru tuag at gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Maent hefyd yn datgan cefnogaeth i argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.


Yn sgil gwaith y prosiect Perthyn y deallwyd hefyd am ddiffygion Polisi Gosod Tai Cyffredin Cyngor Gwynedd sydd yn anwybyddu bodolaeth y Gymraeg ond yn gwneud y Saesneg yn hanfod, drwy wneud dinasyddiaeth y DU yn hanfod. Dyma ddyfyniad o ddatganiad Sion Williams Cadeirydd Cyngor Cymuned Botwnnog sydd yn cyfeirio at ddiffygion arffwysol asesiadau iaith a gyflwynir yn sgil datblygiadau cynllunio.

‘Mae gan Gyngor Cymuned Botwnnog bolisi iaith sydd yn gosod gwarchod a chynyddu defnydd o’r Gymraeg yn Nod Strategol ein Cyngor, ond mae’r iaith yn gwanio yma bob dydd.

Mi yda ni wedi clywed gan ein Cyngh. Gareth Williams am y drafodaeth am yr iaith mewn cyfarfod o Gyngor Gwynedd ar y 7fed o Ragfyr 2023, lle roedd arweinwyr y Cyngor yn gwadu realiti’r sefyllfa yma’n llwyr. Erbyn hyn does gen i ddim hyder yng ngallu Cyngor Gwynedd i warchod y Gymraeg yma ym Motwnnog.

Enghraifft o’r ddifyg ydi’r ffaith fod y Cynllun Datblygu Lleol wedi nodi safle addas i 21 tŷ ym Motwnnog, tra mae ymchwiliad Hwyluswyr Tai Gwynedd yn profi mai dim ond 4 o bobl leol, sydd ar y rhestr aros. Pa iaith fydd y gweddill yn ei siarad felly?

Ond yn waeth fyth dyda ni ddim hyd yn oed yn gwybod be ydi gallu ieithyddol y 4 ‘person lleol’ sydd ar y rhsestr, am nad oes hyd yn oed drefn yn ei lle, i ofyn y cwestiwn.

Does dim ystyriaeth chwaith i’r ffaith fod gosod un person di-Gymraeg yng nghanol llu o bobl rugl ddwyieithog, mewn sefyllfa gymdeithasol gymunedol Gymraeg, yn golygu fod yn rhaid i ni droi i’r Saesneg a gildio’r Gymraeg yn gyfangwbwl, mae o yn digwydd yma rwan.

Mae’n rhaid cydnabod ffeithiau fel hyn, os oes gobaith o ffurfio polisïau effeithiol a gweithredu i gryfhau’r Gymraeg neu does yna ddim gobaith y bydd yna filiwn o siaradwyr erbyn 2050.’

Sion Williams, Cadeirydd Cyngor Cymuned Botwnnog.

Yn sgil hyn yr aed ati i ymchwilio i bosibiliadau gosod amod iaith ar ddatblygiadau tai mewn pentref Cymraeg fel Botwnnog. Amlygodd yr angen i sefydlu polisiau a chynlluniau lleol fydd yn llwyddo i sefydlogi a chryfhau’r Gymraeg. Arweiniodd at ofyn am ganran resymol o arian y premiwm ail gartrefi a threthi’r diwydiant twristiaeth yn ei ôl, i gael ei ddefnyddio i dalu am y gwaith o sefydlogi a chryfhau’r Gymraeg yn Llŷn.


Sefydlwyd y ‘Comisiwn Cymunedau Cymraeg’ gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud argymhellion polisi cyhoeddus i gryfhau’r Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg.

Mae’r Papur safbwynt a gyhoeddwyd ar 1/6/23 yn argymell :-

Er mwyn gallu amrywio polisi cyhoeddus mewn cymunedau o’r fath, dylid dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol. Dylid cyfeirio at yr ardaloedd hyn fel ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’. Byddai hyn yn cydnabod realiti demograffeg iaith gan amlygu hefyd bod y Gymraeg yn arwyddocaol ymhob rhan o Gymru.

Mantais dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) fyddai:

1. caniatáu amrywiaeth polisi a phwyslais polisi o blaid y Gymraeg fel iaith gymunedol

2. sicrhau fod yr amrywiaeth polisi yn ymateb i anghenion cymdeithasol ac ieithyddol amrywiol yr ardaloedd hyn

3. dwysáu’r ystyriaeth a wneir o’r Gymraeg o fewn fframwaith polisi

4. caniatáu ymyraethau o blaid y Gymraeg er mwyn ei sefydlogi a’i chryfhau fel iaith gymunedol

5. rhoi grymoedd angenrheidiol i rymuso cymunedau i wrthdroi shifft iaith




cyfeillion Llŷn