Eisteddfod Boduan 2023
Mae hyrwyddo diwylliant o bob math wedi bod yn ganolog i waith y Cyfeillion ers ei sefydlu. Roedd cyfnod ei sefydlu yn gyfnod o ddeffroad a chwyldro ym myd y celfyddydau gweledol yng Nghymru ac yr oedd hefyd yng nghanol y cyfnod llosgi tai haf. Sefydlwyd mudiadau a chymdeithasau fel Gweled a Beca a oedd yn galw ar artistiaid chwalu’r hen ddelwedd o Gymru’r defaid, y daffodil a’r hetiau cantel uchel oedd yn cadw’r ‘welcome in the hillside’. Gwelwyd weithiau o gelf Beca gan y brodyr Paul a Peter Davies o’r tai ar yr ‘hillside’ yn llosgi.
Roedd llawer o’r Cyfeillion eu hunain yn bobl greadigol gyda diddordeb yn y celfyddydau gweledol ac yn deall fod gan gelf weledol le pwysig fel rhan o ymgyrchoedd y Cymry dros iaith diwylliant a hanes. Gwnaeth y Cyfeillion lawer i hyrwyddo celfyddyd Gymreig berthnasol i Gymru a datblygodd cydweithio agos efo artistiad. Bu’r Cyfeillion yn trefnu arddangosfeydd a darlithoedd gan arweinwyr fel Peter Lord a John Meirion Morris ym Mhlas Glyn y Weddw. Roedd hyn hefyd yn cefnogi gweledigaeth Gwyneth a Dafydd ap Thomas i sefydlu Oriel i arddangos y gelfyddyd newydd genedlaetholgar a Chymraeg ei naws oedd wrthi yn datblygu ac yno y trefnodd y Cyfeillion gartref newydd i Feini Pemprys hefyd.
Felly pan ddaeth yr Eisteddfod i Lŷn yn 2023 roedd Cyfeillion Llŷn unwaith eto yn barod iawn i fod yn gyfrifol am drefniadau nifer o ddigwyddiadau celf yn yr Eisteddfod i godi ymwybyddiaeth o werth celf weledol yn y frwydr dros y Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys yr holl drefniadau i ddathlu 20 mlynedd o Wobr Ifor Davies; digwyddiad i ddathlu gwaith a bywyd John Meirion Morris yn babell Cymdeithasau 2; bod yn rhan o sgwrs Cymdeithas yr Iaith am le celf yn rhan o’r frwydr a sut y mae’r sloganau a chloriau recordiau, posteri a chrysau T i gyd yn enghraifft o gelf yn cael ei ddefnyddio yn rhan o’r ymgyrchoedd. Hefyd roedd y cyflwyniad celf ‘Creu Hanes’ i blant ysgolion dalgylch yr Eisteddfod yn sôn am waith ac ymgyrchoedd y gorffennol dros y Gymraeg gan unigolion a mudiadau a chreodd y plant Gelf Beca newydd mewn ffilm a lluniau a gafodd eu cyflwyno ar stondin ‘Beca’ yn ystod yr wythnos.
Creu Hanes
Rhan o brosiect Y Lle Celf a Cynefin efo’r ysgolion cyn yr Eisteddfod, oedd y cyflwyniad celf ‘Creu Hanes’. Roedd yn sôn am hanes yr ardal a gwaith unigolion a mudiadau fel Cyfeillion Llŷn yn gwarchod y Gymraeg. Gwnaed y cyflwyniad er mwyn codi ymwybyddiaeth y plant o fawredd yr etifeddiaeth Gymreig a’r cyfrifoldeb sydd gan bawb, o bob cefndir i warchod y Gymraeg ac i ymgyrchu drosti pan fydd angen.
Roedd cyflwyniad yn dangos i’r plant sut y gall pobl greadigol ail gyflwyno hanes i greu chwyldro fel y gwnaeth Saunders Lewis efo’i ddarlith a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Fel y gwnaeth Iolo Morgannwg efo’i ddychymyg byw a’i feddwl creadigol wrth sefydlu Gorsedd y Beirdd, sydd yn sail i seremonïau’r Eisteddfod hyd heddiw. Fel y gwnaeth Dafydd Iwan efo’r gan ‘Yma o Hyd’ sydd wedi cyflwyno i’r byd hanes Macsen Wledig yn gadael y wlad yn un darn. Fel y gwnaeth Paul a Peter Davies efo’u gwaith celf Beca. Gwnaeth y plant gelf Beca newydd mewn ffilm a lluniau yn diolch i’w harwyr a oedd wedi helpu’r Gymraeg. Fe gafodd eu gwaith ei arddangos ar stondin Beca ar gae’r Eisteddfod ym Moduan a darnau eraill eu harddangos yn y fynedfa.
Arweiniodd y cyflwyniad celf a’r drafodaeth wedyn at iddyn nhw ystyried sut y medrant nhw yn bersonol helpu’r Gymraeg. Canlyniad hyn yn ysgol Abererch oedd ymgyrch gan y plant i ofyn i bawb ddysgu dweud diolch a chroeso fel y maen nhw a’u teuluoedd yn ei wneud i ddangos parch at y bobl yn y gwledydd y maen nhw yn ymweld â nhw. Gofynnodd y plant am help Anti Jo sydd yn swyddog cymunedol yn Asda Pwllheli a threfnwyd i osod arwyddion ar y tils i egluro mor bwysig oedd cryfhau’r Gymraeg er mwyn y plant a chenedlaethau’r dyfodol.




Dathlu gwaith a bywyd John Meirion Morris
Digwyddiad i ddathlu gwaith a bywyd John Meirion Morris yng Nghymdeithasau 2, gyda’r siaradwyr gwadd Myrddin ap Dafydd, Ieuan Wyn a Peter Lord yn hel atgofion am John Meirion Morris a’i weledigaeth ysbrydol am gelfyddyd odidog ein cyndeidiau Celtaidd.

Ifor Davies
Uchafbwynt arddangosfa’r Lle Celf gan lawer eleni, oedd y tri darn gan Ifor Davies a enillodd Y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2002. Cafodd y tri eu harddangos fel rhan o drefniadau i ddathlu fod Ifor Davies wedi cyflwyno ei wobr ers ugain mlynedd. Pan enillodd Ifor y wobr penderfynodd defnyddio’r wobr ariannol er mwyn sefydlu ei wobr ei hun. Er bod yr arian gwreiddiol wedi hen ddod i ben mae wedi parhau i ddyfarnu Gwobr Ifor Davies ac yn fuan daeth cyhoeddi enw’r enillydd yn un o uchafbwyntiau gweithgareddau’r Lle Celf.
Meddai Ifor “Sefydlais y wobr er mwyn ailgylchu arian enillais i yn yr un ysbryd â’r lluniau cafodd eu harddangos y flwyddyn honno,” meddai, gan gyfeirio at Yr Ysgrifen ar y Mur I: Dinistr iaith a chymuned, Yr Ysgrifen ar y Mur II: Bomio gwledydd llwm a Tri Penyberth. “Roedd hyn yn ffordd o gyflawni neu hyrwyddo un o’m huchelgeisiau ar gyfer iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru ym myd y celfyddydau gweledol. Mae’n bwysig i ni gofio, neu beidio ag anghofio, bod y pethau hyn yn fyw nawr – mae lledu’r posibiliadau o gadw’r cof, yr iaith a’r diwylliant yn fyw yn ein dwylo ni.”
Man cychwyn Gwobr Ifor Davies oedd chwyldro celf yr wythdegau a gychwynnodd efo perfformiad celf Paul Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1977. Cododd ddarn o hen sliper rheilffordd efo’r llythrennau WN arno uwch ei ben, a sefyll y tu allan i’r Lle Celf. Protest oedd yn erbyn penderfyniad yr Eisteddfod i roi llwyfan i artistiaid o’r tu allan i Gymru, oedd heb ddealltwriaeth am Gymreictod. Protest am fod yr Eisteddfod yn trin celf fel rhywbeth oedd y tu allan i’r rheol Gymraeg ac ar wahân i weddill Cymreictod yr Eisteddfod. Sylweddolai Paul mae’r Eisteddfod ydi’r unig lwyfan cenedlaethol sydd gan artistiaid i gyflwyno celf weledol Gymreig a hynny am un wythnos, yn unig.
Oherwydd y perfformiad fe ymunodd Ifor Davies efo’r ddau frawd a buan yr ymunodd artistiaid eraill efo’r Grŵp Beca. Dwy gyflwyno gwobr flynyddol Ifor Davies i gelf sydd yn cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru mae Ifor Davies wedi parhau i alw ar yr Eisteddfod, Y Lle Celf a’r awdurdodau yng Nghymru i roi llwyfan priodol i gelf wleidyddol am Gymru yng Nghymru.
Yr Ysgrifen ar y Mur I: Dinistr iaith a chymuned
Mae gan y darn yma gyswllt agos ac ardal yr Eisteddfod. Mae dau o’r tri darn buddugol yn rhannu’r un uwchdeitl ‘Yr ysgrifen ar y Mur’ ac y mae iddo fwy nac un ystyr. Y mae’n gyfeiriad at yr ymadrodd cyfarwydd, sydd yn tarddu o lyfr Daniel yn y Beibl, fod dinistr neu ddiwedd am fod a bod yr ysgrifen ar y wal neu’r mur yn dweud hynny ac mae’r ysgrifen gan Ifor ar fur y capel. Ond y mae hefyd yn cyfeirio’n llythrennol at yr hanes sydd y tu ôl i’r darn y mae’r isdeitl yn cyfeirio ato sef gweithredoedd a safiad rhai Cymry ifanc a wrthododd ymladd yn yr ail ryfel byd ar sail cenedlaetholdeb ac a dreuliodd gyfnod yn y carchar o’r herwydd. Yn 1939 ysgrifennodd yr artist a’r awdur J. G. Williams a’i gyfeillion yr artist Elis Gwyn Jones a’i frawd y dramodydd Wil Sam Jones, y geiriau ‘Ymwrthyd Cymru â rhyfeloedd Lloegr’ ar furiau adfail hen gapel Moreia yn Llanystumdwy a dyma’r geiriau yn y darn.

Yr Ysgrifen ar y Mur II: Bomio gwledydd llwm
Dyma’r ail ddarn gyda’r uwchdeitl ‘Yr ysgrifen ar y Mur’ sydd yn tarddu o lyfr Daniel yn y Beibl, lle’r ymddangosodd llaw ac ysgrifennu ar y mur i rybuddio Belsasar mab Nebuchodonosor o’r dinistr oedd yn ei wynebu, oherwydd ei fod yn addoli gwerthoedd materol aur ac arian yn hytrach na gwerthoedd ysbrydol. Roedd Daniel a’i gyfoedion yn gwrthsefyll rheolaeth eu gormeswyr ac mae’r Beibl ar agor ar dudalen o lyfr Daniel. Mae’r gwn yn cynrychioli rhyfeloedd a dinistr y gwledydd cyfoethocaf sydd yn bwydo’r diwydiant arfau gan achosi dioddefaint dinasyddion tlotaf y byd. Mae’r rhyfeloedd Lloegr yn rhwygo a chwalu heddwch a’r bywyd yn y cymunedau Cymraeg yn ddau ddarn. Roedd y Beibl yma yn Feibl y teulu ac nid penderfyniad hawdd oedd ei falurio er mwyn cyflwyno’r neges gadarn yma.

Tri Penyberth
Dyma’r darn mwyaf enwog ac adnabyddus o’r tri sydd yn cyflwyno’r weithred fwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru ers cyfnod Owain Glyndŵr sef llosgi’r ysgol fomio. Gweithred Lewis Valentine, D.J. Williams a Saunders Lewis oedd hon ac yn ei araith o flaen y Llys cyfeiriodd Saunders Lewis at Lywodraeth Lloegr fel fandaliaid, am iddynt chwalu hen dy Penyberth a oedd yn safle cysegredig o bwys hanesyddol cenedlaethol. Yno y cyfarfyddai’r beirdd ac yno y bu Owain Glyndŵr a’r pererinion yn gorffwys. Gweithred oedd hon, gan genedlaetholwyr o Gymry Cymraeg, yn erbyn gormes y Saeson, gyda’r bwriad o ddeffro’r Cymry i godi fel un a gwarchod y bywyd Cymraeg, ond nid felly y bu.

Dathlu Gwobr Ifor Davies Ffilm Culture Colony 2023-
Dathlu Gwobr Ifor Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2003
Jason Walford Davies, John Gower a Sian Parri yn hel atgofion am R.S. Thomas

