Gwyliau Cymraeg

Mae maint bygythiadau’r diwydiant twristiaeth Saesneg a gychwynnodd yn Abersoch ar droad y ganrif wedi ei gadarnhau mewn gwaith ymchwil a gynhaliwyd rhai blynyddoedd yn ôl. Mae holl effeithiau’r diwydiant ar y Gymraeg yn Llŷn yn gwbl amlwg gyda’r cyswllt rhwng twristiaeth a thai haf, ail gartrefi, tai gwyliau, prisiau tai uchel, mewnfudwyr o siaradwyr Saesneg ac allfudiad o siaradwyr Cymraeg ifanc, i’w gweld amlycaf yn Abersoch.

Ymateb y Cyfeillion i’r bygythiad yma ydi’r cynllun Gwyliau Cymraeg sydd yn galw am gydweithrediad pawb i hyrwyddo Llŷn fel cyrchfan Gymraeg a chreu twristiaeth gylchol gynaliadwy fydd yn cyflwyno’r iaith a’i hanes i genedlaethau’r dyfodol.

Fel un a oedd wedi gorfod dysgu ei famiaith ei hun roedd R.S. Thomas yn ymwybodol iawn o’r angen i siaradwyr Cymraeg gynorthwyo ymdrechion y dysgwyr drwy beidio troi i’r Saesneg. Mi fydda fo’n dweud mai’r oll sydd angen i ni ei wneud i warchod y Gymraeg ydy ‘ei siarad hi a siarad dim ond y hi’. Dyma hefyd oedd neges: “Dim Saesneg” Phill Wyman a ategwyd gan Siaradwyr Cymraeg Newydd a gafodd ei gyflwyno mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Glan y Môr a gynhaliwyd fis cyn yr Eisteddfod ym Moduan i ofyn am gydweithrediad pawb i estyn yr un un Croeso Cymraeg i dwristiaid Llŷn yn 2024 ag a wnaethpwyd ar gyfer yr Eisteddfod yn 2023.

Cryfhau’r iaith Gymraeg yn Llŷn ydi’r nod, er mwyn cyflwyno a rhannu’r trysor unigryw hwn, sydd gennym, hefo’r twristiaid a ddaw yma o bob rhan o Gymru a gweddill y byd. Yn y cyfarfod cafwyd hanes Anna a Bryn Fôn yn rhedeg caffi Plas Carmel yn uniaith Gymraeg ac yn cael cefnogaeth gan bawb. Clywsom gan Myrddin ap Dafydd am reol Gymraeg yr Eisteddfod; gan Liz Saville fel y mae dysgu’r Gymraeg yn agor y drws i fyd o deulu newydd a bod yn rhaid gwrando ar neges y Siaradwyr newydd; a chlywsom gan Howard Huws o Gylch yr Iaith am effeithiau twristiaeth ar gymunedau dros y byd. Ers hynny mae’r bwriad o sefydlu Llŷn yn gyrchfan Gymraeg lle bydd y diwydiant twristiaeth yn ffynnu a’r iaith yn ffynnu yn ei sgil, wedi derbyn cefnogaeth o bob cwr.

Fe gafodd y syniad ei dreialu fel cynllun peilot ‘Pecynnu’r Profiad Cymraeg’ yn Llangwnnadl rai blynyddoedd yn ôl a chynllun tebyg iddo wedi ei gwblhau yn Llanengan yn ddiweddar. Mae’n amserol rŵan i’w weithredu’n ehangach oherwydd y diddordeb byd-eang newydd yn y Gymraeg. Heddiw yn sgil y campau pêl droed mae llygaid y byd ar hanes yr iaith a’r genedl Gymraeg a diolch i Dafydd Iwan maen nhw’n gwybod fod Macsen Wledig wedi gadael ein gwlad yn un darn ers y flwyddyn 383. Mae rhai o sêr Hollywood wedi gwirioni ar y Gymraeg a mwy o bobl wedi dysgu Cymraeg ar y we yn ystod y pandemig na’r un iaith arall. Mae mwy o gefnogaeth i annibyniaeth nac erioed a rŵan mae S4C yn cael ei ddarlledu yn yr Unol Daliaethau. Fydd yna ddim amser gwell, na rŵan i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy Gymraeg.


Dyma ffilm o’r cyfarfod –


Roedd Phil Wyman yn bwriadu dŵad yno i sôn am ei daith Dim Saesneg, ond bu farw cyn cael y cyfle ac felly fe gafodd ei neges ei hategu ar ffilm gan siaradwyr newydd eraill, er cof amdano ac am ei neges bwysig at y diwydiant twristiaeth yn Llŷn ac yng Ngwynedd.


https://www.youtube.com/watch?v=U1mcqVWrLcY


https://www.youtube.com/watch?v=D0GqfBFfZv0


Dolenni allanol –


gweithio gyda ni ar gyfer dyfodol gwell

Rydym yn gweithio i sicrhau dyfodol gwell i genedlaethau’r dyfodol yn gymunedau Cymraeg eu hiaith