Perthyn

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae hi ym mêr ein hesgyrn ni. Mae’n rhan o beth sy’n ein gwneud ni’n ‘ni’. Felly, ydy mae’n gyfrifoldeb arnon ni i gyd i ddod at ein gilydd i sicrhau ei dyfodol, ond mae hefyd yn gyfle i ni gofio fod gan bawb ei ran, mae gan bawb ei lais—mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.” Jeremy Miles A.S.

Mae’r prosiect Perthyn yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i gynnal y Gymraeg yn y cymunedau sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi. ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’, ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’ a ‘Chynllun Peilot Dwyfor’.

Nodau’r prosiect Perthyn yn Llŷn

  • Sefydlu cynlluniau tai neu dir o dan arweiniad y gymuned, er mwyn cynyddu niferoedd cartrefi Cymraeg, sydd yn allweddol i wireddu Cymraeg 2050.
  • Datblygu’r cynllun Croeso Cymraeg yn Llŷn i sefydlu twristiaeth gynaliadwy, gylchol, Gymraeg ei hiaith.
  • Creu cyfleoedd a gofodau Cymraeg ei hiaith i gynnal y Gymraeg a’i helpu i ffynnu.

Prif amcan y prosiect yn Llŷn, ydi gwireddu gweledigaeth Cyfeillion Llŷn 1/7/23 o sefydlu rhwydwaith cyswllt newydd fydd gwarchod a chryfhau’r Gymraeg drwy greu sector newydd o dwristiaeth gynaliadwy ac economi gylchol oddi fewn i Gymru. Cyflwynwyd y weledigaeth mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ar 1/7/23. Gofynwyd i bawb roi’r un Croeso Cymraeg yn 2024 ac a gafodd yr Eisteddfod yn ‘23. Cryfhau’r Gymraeg yn Llŷn er mwyn ei chyflwyno i Gymru a’r byd fel yr un peth unigryw sydd yma.


Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd’ meddai Jeremy Miles Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wrth roi her i bob unigolyn weirhredu i gryfhau’r Gymraeg, yn ei araith wrth nodi chwe deg mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi’i ddarlith Tynged yr Iaith yn 1962.


Dywedodd Saunders Lewis fod parhad yr iaith yn Llŷn, sy’n ddi-dor ers y chweched Ganrif yn fater o fyw neu farw i Gymru ac mae perthynas y Gymraeg efo’r darn yma o dir yn ymestyn yn ôl i’r cyfnod cynharaf.


Mae papur safbwynt y ‘Comisiwn Cymunedau Cymraeg’ yn argymell dynodi’r ardaloedd lle mae’r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn ‘Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (dwysedd uwch)’, er mwyn gallu amrywio polisi cyhoeddus a gweithredu o blaid y Gymraeg a’i chryfhau fel iaith gymunedol. Mae ffigurau’r Cyfrifiad 2021 yn cadarnhau mai ym mhen draw Llŷn y mae’r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg ac mai yma hefyd y mae’r ganran uchaf o ail gartrefi. Yma felly y bydd ei diwedd os na ddaw tro ar fyd.


Mewn dwyieithrwydd y gwelai Saunders Lewis ‘farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddi-alar i’r Gymraeg’ a dyna’n union sy’n digwydd yn Llŷn heddiw. Yn y cyd destun yma ac ar sail tystiolaeth Llywodraeth Cymru ac argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg y mae Cynghorau Cymuned Pen Draw Llŷn wedi dynodi’r ardal yn Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (dwysedd uwch), mewn ymdrech i sefydlogi dirywiad y Gymraeg a’i chryfhau fel iaith gymunedol.


Sefydlwyd y ‘Comisiwn Cymunedau Cymraeg’ gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud argymhellion polisi cyhoeddus i gryfhau’r Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg.

Mae’r Papur safbwynt a gyhoeddwyd ar 1/6/23 yn argymell :-

Er mwyn gallu amrywio polisi cyhoeddus mewn cymunedau o’r fath, dylid dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol. Dylid cyfeirio at yr ardaloedd hyn fel ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’. Byddai hyn yn cydnabod realiti demograffeg iaith gan amlygu hefyd bod y Gymraeg yn arwyddocaol ymhob rhan o Gymru.

Mantais dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) fyddai:

1. caniatáu amrywiaeth polisi a phwyslais polisi o blaid y Gymraeg fel iaith gymunedol

2. sicrhau fod yr amrywiaeth polisi yn ymateb i anghenion cymdeithasol ac ieithyddol amrywiol yr ardaloedd hyn

3. dwysáu’r ystyriaeth a wneir o’r Gymraeg o fewn fframwaith polisi

4. caniatáu ymyraethau o blaid y Gymraeg er mwyn ei sefydlogi a’i chryfhau fel iaith gymunedol

5. rhoi grymoedd angenrheidiol i rymuso cymunedau i wrthdroi shifft iaith

cyfeillion Llŷn