{"id":557,"date":"2024-01-04T20:23:27","date_gmt":"2024-01-04T20:23:27","guid":{"rendered":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/?page_id=557"},"modified":"2024-08-08T11:29:38","modified_gmt":"2024-08-08T10:29:38","slug":"eisteddfod","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/","title":{"rendered":"Eisteddfod 2023"},"content":{"rendered":"\n<div style=\"height:17px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-28f84493 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong><a href=\"#ysgol\">Creu Hanes<\/a><\/strong><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"#morris\"><strong>Dathlu John Meirion Morris<\/strong><\/a>  <strong> <\/strong><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-center\"> <a href=\"#ifor\"><strong>Dathlu Gwobr Ifor Davies<\/strong><\/a> <\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-28f84493 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\"><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong><a href=\"#rs\">Atgofion am R.S.Thomas<\/a><\/strong><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\"><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-large-font-size\" id=\"inspiro-is-a-digital-product-agency-that-focuses-on-strategy-and-design\" style=\"font-style:normal;font-weight:100\"><strong>Eisteddfod Boduan 2023<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<div style=\"height:31px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Mae hyrwyddo diwylliant o bob math wedi bod yn ganolog i waith y Cyfeillion ers ei sefydlu. Roedd cyfnod ei sefydlu yn gyfnod o ddeffroad a chwyldro ym myd y celfyddydau gweledol yng Nghymru ac yr oedd hefyd yng nghanol y cyfnod llosgi tai haf. Sefydlwyd mudiadau a chymdeithasau fel Gweled a Beca a oedd yn galw ar artistiaid chwalu\u2019r hen ddelwedd o Gymru\u2019r defaid, y daffodil a\u2019r hetiau cantel uchel oedd yn cadw\u2019r \u2018welcome in the hillside\u2019. Gwelwyd weithiau o gelf Beca gan y brodyr Paul a Peter Davies o\u2019r tai ar yr \u2018hillside\u2019 yn llosgi.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd llawer o\u2019r Cyfeillion eu hunain yn bobl greadigol gyda diddordeb yn y celfyddydau gweledol ac yn deall fod gan gelf weledol le pwysig fel rhan o ymgyrchoedd y Cymry dros iaith diwylliant a hanes. Gwnaeth y Cyfeillion lawer i hyrwyddo celfyddyd Gymreig berthnasol i Gymru a datblygodd cydweithio agos efo artistiad. Bu&#8217;r Cyfeillion yn trefnu arddangosfeydd a darlithoedd gan arweinwyr fel Peter Lord a John Meirion Morris ym Mhlas Glyn y Weddw. Roedd hyn hefyd yn cefnogi gweledigaeth Gwyneth a Dafydd ap Thomas i sefydlu Oriel i arddangos y gelfyddyd newydd genedlaetholgar a Chymraeg ei naws oedd wrthi yn datblygu ac yno y trefnodd y Cyfeillion gartref newydd i Feini Pemprys hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Felly pan ddaeth yr Eisteddfod i L\u0177n yn 2023 roedd Cyfeillion Ll\u0177n unwaith eto yn barod iawn i fod yn&nbsp; gyfrifol am drefniadau nifer o ddigwyddiadau celf yn yr Eisteddfod i godi ymwybyddiaeth o werth&nbsp; celf weledol yn y frwydr dros y Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys yr holl drefniadau i ddathlu 20 mlynedd o Wobr Ifor Davies; digwyddiad i ddathlu gwaith a bywyd John Meirion Morris yn babell Cymdeithasau 2; bod yn rhan o sgwrs Cymdeithas yr Iaith am le celf yn rhan o\u2019r frwydr a sut y mae\u2019r sloganau a chloriau recordiau, posteri a chrysau T i gyd yn enghraifft o gelf yn cael ei ddefnyddio yn rhan o\u2019r ymgyrchoedd. Hefyd roedd y cyflwyniad celf \u2018Creu Hanes\u2019 i blant ysgolion dalgylch yr Eisteddfod yn s\u00f4n am waith ac ymgyrchoedd y gorffennol dros y Gymraeg gan unigolion a mudiadau a chreodd y plant Gelf Beca newydd mewn ffilm a lluniau a gafodd eu cyflwyno ar stondin \u2018Beca\u2019 yn ystod yr wythnos.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:32px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<div style=\"height:70px\" aria-hidden=\"true\" id=\"ysgol\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Creu Hanes<\/h2>\n\n\n\n<p>Rhan o brosiect Y Lle Celf a Cynefin\u00a0efo&#8217;r ysgolion\u00a0cyn yr Eisteddfod, oedd y cyflwyniad celf \u2018Creu Hanes\u2019. Roedd yn s\u00f4n am hanes yr ardal a gwaith unigolion a mudiadau fel Cyfeillion Ll\u0177n yn gwarchod y Gymraeg. Gwnaed y cyflwyniad er mwyn codi ymwybyddiaeth y plant o fawredd yr etifeddiaeth Gymreig a\u2019r cyfrifoldeb sydd gan bawb, o bob cefndir i warchod y Gymraeg ac i ymgyrchu drosti pan fydd angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd\u00a0 cyflwyniad yn dangos i\u2019r plant sut y gall pobl greadigol ail gyflwyno hanes i greu chwyldro fel y gwnaeth Saunders Lewis efo\u2019i ddarlith a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Fel y gwnaeth Iolo Morgannwg efo\u2019i ddychymyg byw a\u2019i feddwl creadigol wrth sefydlu Gorsedd y Beirdd, sydd yn sail i seremon\u00efau\u2019r Eisteddfod hyd heddiw. Fel y gwnaeth Dafydd Iwan efo\u2019r gan \u2018Yma o Hyd\u2019 sydd wedi cyflwyno i\u2019r byd hanes Macsen Wledig yn gadael y wlad yn un darn. Fel y gwnaeth Paul a Peter Davies efo\u2019u gwaith celf Beca. Gwnaeth y plant gelf Beca newydd mewn ffilm a lluniau yn diolch i\u2019w harwyr a oedd wedi helpu\u2019r Gymraeg. Fe gafodd eu gwaith ei arddangos ar stondin Beca ar gae\u2019r Eisteddfod ym Moduan a darnau eraill eu harddangos yn y fynedfa.<\/p>\n\n\n\n<p>Arweiniodd y cyflwyniad celf a\u2019r drafodaeth wedyn at iddyn nhw ystyried sut y medrant nhw yn bersonol helpu\u2019r Gymraeg. Canlyniad hyn yn ysgol Abererch oedd ymgyrch gan y plant i ofyn i bawb ddysgu dweud diolch a chroeso fel y maen nhw a\u2019u teuluoedd yn ei wneud i ddangos parch at y bobl yn y gwledydd y maen nhw yn ymweld \u00e2 nhw. Gofynnodd y plant am help Anti Jo sydd yn swyddog cymunedol yn Asda Pwllheli a threfnwyd i osod arwyddion ar y tils i egluro mor bwysig oedd cryfhau\u2019r Gymraeg er mwyn y plant a chenedlaethau\u2019r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/sounds\/brand\/b075t5tc\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignwide has-global-padding is-content-justification-center is-layout-constrained wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p class=\"has-text-align-center\">Ymgyrch Ysgol Abererch a siop Asda, Pwllheli i annog pobl i siarad Cymraeg<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full is-resized\"><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/sounds\/play\/p0g1c3hl\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"690\" height=\"490\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/bbc.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-575\" style=\"width:317px;height:auto\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/bbc.png 690w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/bbc-300x213.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 690px) 100vw, 690px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image alignwide size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"676\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/ysgol2-1024x676.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-393\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/ysgol2-1024x676.jpg 1024w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/ysgol2-300x198.jpg 300w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/ysgol2-2000x1320.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-28f84493 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:60%\">\n<figure class=\"wp-block-image alignwide size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0694-2-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-468\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0694-2-1024x768.jpg 1024w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0694-2-300x225.jpg 300w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0694-2-768x576.jpg 768w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0694-2-1536x1152.jpg 1536w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0694-2-2048x1536.jpg 2048w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0694-2-2000x1500.jpg 2000w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0694-2-600x450.jpg 600w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0694-2-1200x900.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:40%\">\n<figure class=\"wp-block-image alignwide size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0698-2-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-467\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0698-2-768x1024.jpg 768w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0698-2-225x300.jpg 225w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0698-2-scaled.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image alignwide size-large\" id=\"beca\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"205\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/banner-2s-1024x205.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-400\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/banner-2s-1024x205.jpg 1024w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/banner-2s-300x60.jpg 300w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/banner-2s.jpg 1701w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:100px\" aria-hidden=\"true\" id=\"morris\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dathlu gwaith a bywyd John Meirion Morris<\/h2>\n\n\n\n<p>Digwyddiad i ddathlu gwaith a bywyd John Meirion Morris yng Nghymdeithasau 2, gyda\u2019r siaradwyr gwadd Myrddin ap Dafydd, Ieuan Wyn a Peter Lord yn hel atgofion am John Meirion Morris a\u2019i weledigaeth ysbrydol am gelfyddyd odidog ein cyndeidiau Celtaidd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-4-3 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Dathlu Gwaith a Bywyd John Meirion Morris\" width=\"950\" height=\"534\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/R6_VCEdustU?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image alignwide size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"563\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/meirion-1024x563.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-555\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/meirion-1024x563.png 1024w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/meirion-300x165.png 300w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/meirion.png 1752w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:100px\" aria-hidden=\"true\" id=\"ifor\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ifor Davies<\/h2>\n\n\n\n<p>Uchafbwynt arddangosfa\u2019r Lle Celf gan lawer eleni, oedd y tri darn gan Ifor Davies a enillodd Y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2002. Cafodd y tri eu harddangos fel rhan o drefniadau i ddathlu fod Ifor Davies wedi cyflwyno ei wobr ers ugain mlynedd. Pan enillodd Ifor y wobr penderfynodd defnyddio\u2019r wobr ariannol er mwyn sefydlu ei wobr ei hun. Er bod yr arian gwreiddiol wedi hen ddod i ben mae wedi parhau i ddyfarnu Gwobr Ifor Davies ac yn fuan daeth cyhoeddi enw\u2019r enillydd yn un o uchafbwyntiau gweithgareddau\u2019r Lle Celf.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Ifor \u201cSefydlais y wobr er mwyn ailgylchu arian enillais i yn yr un ysbryd \u00e2&#8217;r lluniau cafodd eu harddangos y flwyddyn honno,\u201d meddai, gan gyfeirio at Yr Ysgrifen ar y Mur I: Dinistr iaith a chymuned,&nbsp; Yr Ysgrifen ar y Mur II: Bomio gwledydd llwm a&nbsp; Tri Penyberth. \u201cRoedd hyn yn ffordd o gyflawni neu hyrwyddo un o&#8217;m huchelgeisiau ar gyfer iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru ym myd y celfyddydau gweledol. Mae&#8217;n bwysig i ni gofio, neu beidio ag anghofio, bod y pethau hyn yn fyw nawr \u2013 mae lledu\u2019r posibiliadau o gadw\u2019r cof, yr iaith a\u2019r diwylliant yn fyw yn ein dwylo ni.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Man cychwyn Gwobr Ifor Davies oedd chwyldro celf yr wythdegau a gychwynnodd efo perfformiad celf Paul Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1977. Cododd ddarn o hen sliper rheilffordd efo\u2019r llythrennau WN arno uwch ei ben, a sefyll y tu allan i\u2019r Lle Celf. Protest oedd yn erbyn penderfyniad yr Eisteddfod i roi llwyfan i artistiaid o\u2019r tu allan i Gymru, oedd heb ddealltwriaeth am Gymreictod. Protest am fod yr Eisteddfod yn trin celf fel rhywbeth oedd&nbsp; y tu allan i\u2019r rheol Gymraeg ac ar wah\u00e2n i weddill Cymreictod yr Eisteddfod. Sylweddolai Paul mae\u2019r Eisteddfod ydi\u2019r unig lwyfan cenedlaethol sydd gan artistiaid i gyflwyno celf weledol Gymreig a hynny am un wythnos, yn unig.<\/p>\n\n\n\n<p>Oherwydd y perfformiad fe ymunodd Ifor Davies efo\u2019r ddau frawd a buan yr ymunodd artistiaid eraill efo\u2019r Gr\u0175p Beca.&nbsp; Dwy gyflwyno gwobr flynyddol Ifor Davies i gelf sydd yn cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru mae Ifor Davies wedi parhau i alw ar yr Eisteddfod, Y Lle Celf a\u2019r awdurdodau yng Nghymru i roi llwyfan priodol i gelf wleidyddol am Gymru yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:100px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Yr Ysgrifen ar y Mur I: Dinistr iaith a chymuned<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p> Mae gan y darn yma gyswllt agos ac ardal yr Eisteddfod. Mae dau o\u2019r tri darn buddugol yn rhannu\u2019r un uwchdeitl &#8216;Yr ysgrifen ar y Mur&#8217; ac y mae iddo fwy nac un ystyr. Y mae&#8217;n gyfeiriad at yr ymadrodd cyfarwydd, sydd yn tarddu o lyfr Daniel yn y Beibl, fod dinistr neu ddiwedd am fod a bod yr ysgrifen ar y wal neu\u2019r mur yn dweud hynny ac mae\u2019r ysgrifen gan Ifor ar fur y capel. Ond y mae hefyd yn cyfeirio&#8217;n llythrennol at yr hanes sydd y tu \u00f4l i&#8217;r darn y mae&#8217;r isdeitl yn cyfeirio ato sef gweithredoedd a safiad rhai Cymry ifanc a wrthododd ymladd yn yr ail ryfel byd ar sail cenedlaetholdeb ac a dreuliodd gyfnod yn y carchar o\u2019r herwydd. Yn 1939 ysgrifennodd yr artist a&#8217;r awdur J. G. Williams a&#8217;i gyfeillion yr artist Elis Gwyn Jones a&#8217;i frawd y dramodydd Wil Sam Jones, y geiriau &#8216;Ymwrthyd Cymru \u00e2 rhyfeloedd Lloegr&#8217; ar furiau adfail hen gapel Moreia yn Llanystumdwy a dyma\u2019r geiriau yn y darn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"896\" height=\"1024\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0783-1-896x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-572\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0783-1-896x1024.jpg 896w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0783-1-263x300.jpg 263w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/IMG_0783-1.jpg 1247w\" sizes=\"auto, (max-width: 896px) 100vw, 896px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:100px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Yr Ysgrifen ar y Mur II: Bomio gwledydd llwm<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p> Dyma\u2019r ail ddarn gyda\u2019r uwchdeitl &#8216;Yr ysgrifen ar y Mur&#8217; sydd yn tarddu o lyfr Daniel yn y Beibl, lle&#8217;r ymddangosodd llaw ac ysgrifennu ar y mur i rybuddio Belsasar mab Nebuchodonosor o&#8217;r dinistr oedd yn ei wynebu, oherwydd ei fod yn addoli gwerthoedd materol aur ac arian yn hytrach na gwerthoedd ysbrydol. Roedd Daniel a&#8217;i gyfoedion yn gwrthsefyll rheolaeth eu gormeswyr ac mae&#8217;r Beibl ar agor ar dudalen o lyfr Daniel. Mae\u2019r gwn yn cynrychioli rhyfeloedd a dinistr y gwledydd cyfoethocaf sydd yn bwydo\u2019r diwydiant arfau gan achosi dioddefaint dinasyddion tlotaf y byd. Mae\u2019r rhyfeloedd Lloegr yn rhwygo a chwalu heddwch a\u2019r bywyd yn y cymunedau Cymraeg yn ddau ddarn. Roedd y Beibl yma yn Feibl y teulu ac nid penderfyniad hawdd oedd ei falurio er mwyn cyflwyno\u2019r neges gadarn yma.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"994\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/ifor1-1024x994.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-574\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/ifor1-1024x994.jpg 1024w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/ifor1-300x291.jpg 300w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/ifor1.jpg 1202w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:100px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Tri Penyberth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p> Dyma\u2019r darn mwyaf enwog ac adnabyddus o\u2019r tri sydd yn cyflwyno&#8217;r weithred fwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru ers cyfnod Owain Glynd\u0175r sef llosgi\u2019r ysgol fomio. Gweithred Lewis Valentine, D.J. Williams a Saunders Lewis oedd hon ac yn ei araith o flaen y Llys cyfeiriodd Saunders Lewis at Lywodraeth Lloegr fel fandaliaid, am iddynt chwalu hen dy Penyberth a oedd yn safle cysegredig o bwys hanesyddol cenedlaethol. Yno y cyfarfyddai&#8217;r beirdd ac yno y bu Owain Glynd\u0175r a&#8217;r pererinion yn gorffwys. Gweithred oedd hon, gan genedlaetholwyr o Gymry Cymraeg, yn erbyn gormes y Saeson, gyda\u2019r bwriad o ddeffro\u2019r Cymry i godi fel un a gwarchod y bywyd Cymraeg, ond nid felly y bu.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"737\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/19.2_y-tri-1024x737.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-573\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/19.2_y-tri-1024x737.jpg 1024w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/19.2_y-tri-300x216.jpg 300w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/19.2_y-tri.jpg 1653w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:100px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dathlu Gwobr Ifor Davies Ffilm Culture Colony 2023- <\/strong><\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-vimeo wp-block-embed-vimeo wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Wobr ID 5minversion\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/850237467?dnt=1&amp;app_id=122963\" width=\"950\" height=\"534\" frameborder=\"0\" allow=\"autoplay; fullscreen; picture-in-picture; clipboard-write\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:36px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-medium-font-size\" style=\"font-weight:300\"><strong>Dathlu Gwobr Ifor Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2003<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed alignwide is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Dathlu Gwobr Ifor Davies\" width=\"950\" height=\"534\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/f7pJFL2LZXE?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:100px\" aria-hidden=\"true\" id=\"rs\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Jason Walford Davies, John Gower a Sian Parri yn hel atgofion am R.S. Thomas<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-4-3 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Sgwrs am R.S.Thomas rhwng Jason Walford Davies, John Gower a Sian Parri.\" width=\"950\" height=\"713\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/D8SC-01XdJ4?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image alignwide size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"628\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/RS2-1024x628.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-595\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/RS2-1024x628.jpg 1024w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/RS2-300x184.jpg 300w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/RS2.jpg 1134w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:100px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"150\" height=\"150\" src=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cyfeillion-150x150.jpg\" alt=\"cyfeillion Ll\u0177n\" class=\"wp-image-12\" srcset=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cyfeillion-150x150.jpg 150w, http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cyfeillion.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 150px) 100vw, 150px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Creu Hanes Dathlu John Meirion Morris Dathlu Gwobr Ifor Davies Atgofion am R.S.Thomas Eisteddfod Boduan 2023 Mae hyrwyddo diwylliant o bob math wedi bod yn ganolog i waith y Cyfeillion ers ei sefydlu. Roedd cyfnod ei sefydlu yn gyfnod o ddeffroad a chwyldro ym myd y celfyddydau gweledol yng Nghymru ac yr oedd hefyd yng &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/\" class=\"more-link\">Read more<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Eisteddfod 2023&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":227,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-557","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.2 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Eisteddfod 2023 - Cyfeillion Ll\u0177n<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Eisteddfod 2023 Cyfeillion Ll\u0177n\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Eisteddfod 2023 - Cyfeillion Ll\u0177n\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Eisteddfod 2023 Cyfeillion Ll\u0177n\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cyfeillion Ll\u0177n\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/profile.php?id=100094265299027\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-08-08T10:29:38+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1197\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@CyfeillionLlyn\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Estimated reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/\",\"url\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/\",\"name\":\"Eisteddfod 2023 - Cyfeillion Ll\u0177n\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg\",\"datePublished\":\"2024-01-04T20:23:27+00:00\",\"dateModified\":\"2024-08-08T10:29:38+00:00\",\"description\":\"Eisteddfod 2023 Cyfeillion Ll\u0177n\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg\",\"width\":2000,\"height\":1197},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Eisteddfod 2023\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#website\",\"url\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/\",\"name\":\"Cyfeillion Ll\u0177n\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#organization\"},\"alternateName\":\"Cyfeillion\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"en-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#organization\",\"name\":\"Cyfeillion Ll\u0177n\",\"url\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/logo-cyfeillion.png\",\"contentUrl\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/logo-cyfeillion.png\",\"width\":1403,\"height\":225,\"caption\":\"Cyfeillion Ll\u0177n\"},\"image\":{\"@id\":\"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/profile.php?id=100094265299027\",\"https:\/\/x.com\/CyfeillionLlyn\",\"https:\/\/www.youtube.com\/@CyfeillionLlyn\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Eisteddfod 2023 - Cyfeillion Ll\u0177n","description":"Eisteddfod 2023 Cyfeillion Ll\u0177n","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/","og_locale":"en_GB","og_type":"article","og_title":"Eisteddfod 2023 - Cyfeillion Ll\u0177n","og_description":"Eisteddfod 2023 Cyfeillion Ll\u0177n","og_url":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/","og_site_name":"Cyfeillion Ll\u0177n","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/profile.php?id=100094265299027","article_modified_time":"2024-08-08T10:29:38+00:00","og_image":[{"width":2000,"height":1197,"url":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@CyfeillionLlyn","twitter_misc":{"Estimated reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/","url":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/","name":"Eisteddfod 2023 - Cyfeillion Ll\u0177n","isPartOf":{"@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/#primaryimage"},"image":{"@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg","datePublished":"2024-01-04T20:23:27+00:00","dateModified":"2024-08-08T10:29:38+00:00","description":"Eisteddfod 2023 Cyfeillion Ll\u0177n","breadcrumb":{"@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/#primaryimage","url":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg","contentUrl":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg","width":2000,"height":1197},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/eisteddfod\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Eisteddfod 2023"}]},{"@type":"WebSite","@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#website","url":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/","name":"Cyfeillion Ll\u0177n","description":"","publisher":{"@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#organization"},"alternateName":"Cyfeillion","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"en-GB"},{"@type":"Organization","@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#organization","name":"Cyfeillion Ll\u0177n","url":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/logo-cyfeillion.png","contentUrl":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/logo-cyfeillion.png","width":1403,"height":225,"caption":"Cyfeillion Ll\u0177n"},"image":{"@id":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/profile.php?id=100094265299027","https:\/\/x.com\/CyfeillionLlyn","https:\/\/www.youtube.com\/@CyfeillionLlyn"]}]}},"featured_media_urls":{"thumbnail":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-150x150.jpg",150,150,true],"medium":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-300x180.jpg",300,180,true],"medium_large":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg",768,460,false],"large":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-1024x613.jpg",950,569,true],"1536x1536":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-1536x919.jpg",1536,919,true],"2048x2048":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg",2000,1197,false],"inspiro-featured-image":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref.jpg",2000,1197,false],"inspiro-loop":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-950x320.jpg",950,320,true],"inspiro-loop@2x":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-1900x640.jpg",1900,640,true],"portfolio_item-thumbnail":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-600x400.jpg",600,400,true],"portfolio_item-thumbnail@2x":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-1200x800.jpg",1200,800,true],"portfolio_item-masonry":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-600x359.jpg",600,359,true],"portfolio_item-masonry@2x":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-1200x718.jpg",1200,718,true],"portfolio_item-thumbnail_cinema":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-800x335.jpg",800,335,true],"portfolio_item-thumbnail_portrait":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-600x900.jpg",600,900,true],"portfolio_item-thumbnail_portrait@2x":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-1200x1197.jpg",1200,1197,true],"portfolio_item-thumbnail_square":["http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/cropped-cefndir-cartref-800x800.jpg",800,800,true]},"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/557","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=557"}],"version-history":[{"count":22,"href":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/557\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":729,"href":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/557\/revisions\/729"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-json\/wp\/v2\/media\/227"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/cyfeillionllyn.org\/1\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=557"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}